image of Saima

Saima

Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu

Saima yn rhannu ei stori am sut y daeth yn weithiwr cymdeithasol yn y Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu yng Nghyngor Sir Penfro.

“Pan fo’r bobl rydych chi’n eu cefnogi eisiau ymgysylltu â chi, a’ch bod chi’n ennill eu hymddiriedaeth … dyna’r teimlad gorau yn y byd.”

Cyn i mi symud i’r DU, fe weithiais i gyda chyrff anllywodraethol amrywiol fel gweithiwr dyngarol a, phan ddeuthum i Gymru, gwyddwn fy mod am barhau i weithio yn rhywle gydag ethos tebyg: sef gofalu am eraill. Roedd rôl mewn gofal cymdeithasol yn galw arnaf fi, a phenderfynais i astudio gradd mewn Gwaith Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored. 

Treuliais i fy mlynyddoedd ar leoliad myfyriwr yng Nghyngor Sir Penfro ac roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i’n gweithio yn y Tîm Gofal a Reolir ac enillais i brofiad amhrisiadwy, gan feithrin fy sgiliau a chael cymorth gan y tîm cyfan. Yn y pen draw, symudais i’r Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu a dyma lle canfyddais i fy angerdd! Ar ôl graddio a dod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig llawn, roeddwn yn gwybod fy mod i am aros a pharhau i weithio gyda’r bobl anhygoel yn y tîm hwn. 

Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm sy’n grymuso pobl i gyflawni’r hyn sydd fwyaf pwysig iddyn nhw, ac rwyf wrth fy modd yn gweld y bobl rwy’n eu cefnogi yn ffynnu ac yn mwynhau eu bywydau. 

Mae gwaith tîm yn hanfodol wrth weithio ym maes gofal cymdeithasol, ac ni allaf fi bwysleisio ddigon pa mor gefnogol y mae fy nghydweithwyr wedi bod yn ystod fy amser hyd yma yng Nghyngor Sir Penfro. Mae fy rheolwyr wedi fy helpu drwy gydol fy nhaith ddysgu, ac maen nhw’n parhau i wneud hynny nawr fel gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso. Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nghynnwys, fy ngwerthfawrogi a’m parchu o fewn y gwasanaeth. 

Mae cymaint o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol ac addysg yma, a byddwn yn bendant yn annog unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i archwilio pa ddysgu sydd ar gael iddyn nhw. Byddwn i bob amser yn argymell gweithio ym maes gofal cymdeithasol am fy mod i’n mwynhau fy swydd gymaint – dylai pawb deimlo fel hyn am y gwaith maen nhw’n ei wneud. 

Career Stories

Emma

Cydlynydd Ardal Cysylltu Bywydau

“Mae gweithio mewn gofal yn rhoi cymaint i mi. Wrth weld llwybr yn gweithio i'r unigolyn rydych chi'n ei gefnogi, mae'n deimlad mor dda."

Sian

Rheolwr Gwasanaeth yn Mencap

“Y rhan orau o fy swydd yw gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.”