image of Sian

Sian

Rheolwr Gwasanaeth yn Mencap

yn rhannu ei stori ar sut y daeth yn Rheolwr Gwasanaeth yn Mencap, elusen genedlaethol i bobl ag anabledd dysgu.

“Y rhan orau o fy swydd yw gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.”

Dydw i ddim yn enedigol o Sir Benfro; mewn gwirionedd, cefais fy magu rhyw dri chan milltir i ffwrdd yn Swydd Lincoln. Ond pan benderfynodd rhai aelodau o’m teulu symud yma, ni allwn aros yn Swydd Lincoln. Roedd yn gyfle cyffrous i fagu fy nheulu ar arfordir hardd Cymru.

 

Pan oeddwn yn fyfyriwr, fe wnes i  ystyried mynd yn filfeddyg, ond dysgais yn gyflym nad dyna’r gyrfa iawn imi, ac wrth astudio, dechreuais weithio’n rhan amser mewn swydd cymorth gofal. Roedd yn brofiad gwerth chweil, a dyna pryd sylweddolais fy mod am gael gyrfa ym maes gofal.

 

Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, , rwy’n parhau i weithio yn y sector gofal ac mewn gwirionedd  ni allaf ddychmygu gwneud unrhyw beth arall. Fi yw Rheolwr Gwasanaeth Sir Benfro ar gyfer Mencap; mae’n swydd sy’n cwmpasu nifer o elfennau gwahanol o’r sefydliad, o ddatblygu ein gwasanaethau Byw â Chymorth a hyfforddiant staff i ddyletswyddau gweinyddol a recriwtio.

 

Yn Mencap, rydyn ni’n cefnogi pobl sy’n byw gyda sawl anabledd cymhleth ac sydd ag anghenion gofal uchel. Gall fod yn heriol ar adegau ond mae gallu cefnogi pobl bob dydd yn rhoi boddhad mawr i mi! Nod ein rhaglen waith yw  helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Rydyn ni’n  gallu bod yn gwmni  ibobl a’u helpu i barhau i wneud y gweithgareddau maen nhw’n  eu mwynhau, gan gynnwys cefnogi pobl gyda’u gwaith gwirfoddol a’u swyddi cyflogedig.

 

Rwy  wedi gweithio ym Mencap ers dros wyth mlynedd, yn Swydd Lincoln a Sir Benfro, ac rwy wedi gweld drosto fi fy hun  pa mor gefnogol yw’r  cwmni tuag at ei staff – ar lefel leol a chenedlaethol. Rwy hefyd wedi gweld sut mae’r cymorth gan y tîm cyfan yn Mencap yn helpu i roi llais i’r bobl rydyn ni’n  gweithio gyda nhw, sydd mor bwysig.

 

I unrhyw un sy’n ystyried gyrfa ym maes gofal, fy nghyngor i bob amser fyddai: “Rhowch gynnig arni! Dyma’r swydd fwyaf gwerth chweil, oherwydd mae cefnogi pobl mae arnyn nhw eich angen chi yn rhywbeth arbennig iawn.”

Career Stories

Emma

Cydlynydd Ardal Cysylltu Bywydau

“Mae gweithio mewn gofal yn rhoi cymaint i mi. Wrth weld llwybr yn gweithio i'r unigolyn rydych chi'n ei gefnogi, mae'n deimlad mor dda."