Yma yn Sir Benfro, mae gyrfa werth chweil ym maes gofal cymdeithasol yn aros amdanoch. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw tosturi, ymrwymiad, a’r penderfyniad i wneud gwahaniaeth.
Pam Gofal?
“Mae’r cyfle i chwarae rhan mewn cefnogi rhywun arall yn hynod werthfawr, i chi ac iddyn nhw. Mae’r effaith a gewch ar fywyd rhywun arall yn ddwys ac yn ddiamheuol.” P’un a ydych chi’n dechrau arni neu’n bwriadu newid gyrfa, mae Sir Benfro eich angen chi. Yn fwy na dim, rydyn ni eisiau eich angerdd am ddarparu cymorth a’ch parodrwydd i newid bywydau pobl eraill er gwell.
Pam Sir Benfro?
O’r arfordir garw a’r cefn gwlad hyfryd i’r diwylliant cyfoethog a’r ysbryd cymunedol cryf, mae digonedd o resymau dros fyw a gweithio yn Sir Benfro. Gall awyr iach a golygfeydd syfrdanol o’ch cwmpas wneud gwyrthiau i’ch iechyd a’ch lles. A chyda swydd ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Benfro, byddwch yn cael eich cefnogi wrth i chi ddatblygu gyrfa ar lwybr sydd wedi’i deilwra’n benodol i chi.